Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru.
Pwrpas
1. Darperir y papur hwn mewn ymateb i wahoddiad oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru, a chyfranogiad Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-2020, sydd dan fy nghadeiryddiaeth i, hyd yma.
Cefndir
2. Mae Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-2020 (PMC) yn monitro’r ddarpariaeth effeithiol o raglenni ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Chronfa Amaethyddol Cymru ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), ac yn ystyried y ffordd orau y gall y cronfeydd weithio gyda’i gilydd i gyflawni’r effaith fwyaf yng Nghymru. Sefydlwyd un Pwyllgor Monitro Rhaglenni yng Nghymru i gwmpasu’r tair Cronfa Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd a reolir gan Lywodraeth Cymru (ERDF, ESF, EAFRD) ac i ddarparu cyfeiriad strategol a throsolwg o’r buddsoddiadau a wneir ledled Cymru.
3. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys panel o chwe aelod arbenigol a benodwyd drwy’r broses penodiadau cyhoeddus a 22 aelod a enwebwyd ar sail gynrychioliadol (sy’n bodloni gofynion rheoliadol) o gyrff partneriaid a chyrff statudol gan gynnwys llywodraeth leol, addysg uwch ac addysg bellach, y cyhoedd, y sectorau preifat a gwirfoddol, undebau llafur, partneriaid cymdeithasol a’r rhai â’r cyfrifoldebau statudol dros themâu trawsbynciol yr amgylchedd a chydraddoldeb. Atodir rhestr o’r aelodau yn Atodiad A. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod cydbwysedd o aelodau sydd, gyda’i gilydd, yn meddu ar ystod o alluoedd a chymwysterau sy’n berthnasol i weithrediadau’r PMC. Mae cynrychiolaeth draws-sectoraidd ar y PMC hefyd yn sicrhau bod modd cyfleu negeseuon am gyflawni’r rhaglenni ar draws yr holl sectorau.
Gwahoddir y Comisiwn Ewropeaidd (DG REGIO, DG EMBL a DG AGRI) i gymryd rhan yn y Pwyllgor fel cynghorwyr. Mae uwch swyddogion WEFO ac Is-adran Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru yn mynychu cyfarfodydd y PMC i ddiweddaru’r aelodau am baratoi, cyflawni, monitro a gwerthuso’r rhaglenni.
4. Mae’r holl bapurau a gyflwynir yng nghyfarfodydd y PMC ar gael ar dudalennau cyllido’r UE Llywodraeth Cymru https://gov.wales/funding/eu-funds/2014-2020/programme-monitoring-committee/?lang=cy
Rôl y PMC yn y dyfodol o ran disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru
5. Yn unol â gofynion rheoliadol, mae Cylch Gorchwyl y PMC yn nodi y dylai’r PMC fodloni’i hun bod y rhaglenni yn cael eu gweithredu a’u bod yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion a gytunwyd gyda’r UE. Felly, mae’r aelodau, yn briodol ddigon, yn canolbwyntio ar lywio rhaglenni 2014-2020 i ddod i fwcl yn llwyddiannus.
6. Nid yw’r Cylch Gorchwyl yn caniatáu i’r PMC weithredu fel fforwm i gychwyn trafodaeth wleidyddol ynghylch disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru. Fodd bynnag, rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r PMC am y cynnydd o ran polisi rhanbarthol yn y dyfodol.
7. Yn sgil hynny, cyfyngwyd papurau’r PMC am ddyfodol y Polisi Rhanbarthol i ddiweddariadau ar y drafodaeth sy’n datblygu. Rhoddwyd diweddariadau o’r fath i’r PMC ym mhob cyfarfod ers mis Mehefin 2017. Mae’r rhain wedi cwmpasu:
· Statws presennol y papurau polisi sy’n ymwneud â Brexit a safiad Llywodraeth Cymru am flaenoriaethau negodi allweddol;
· Cynnydd o ran y datblygiadau allweddol a’r rhaglen waith ynghylch datblygu dull gweithredu ar gyfer y dyfodol;
· Yn ogystal, anogwyd yr aelodau i ymateb i’r ymarfer ymgysylltu ar bapur Dyfodol Polisi Rhanbarthol ar ôl Brexit Llywodraeth Cymru, ac i fynychu’r digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid ffurfiol i helpu i lywio’r drafodaeth.
8. Mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyfarfod y PMC ym mis Chwefror 2017 i amlinellu’r meysydd allweddol ar gyfer negodi fel y nodwyd ym mhapur polisi Diogelu Dyfodol Cymru
Trafodaethau perthnasol eraill y PMC
9. Prif ffocws gwaith y PMC o hyd yw sicrhau bod rhaglenni 2014-2020 yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus mewn hinsawdd economaidd-gymdeithasol heriol a chyfnewidiol. Fodd bynnag, mae cysylltiadau pwysig rhwng y rhaglenni cyfredol ac unrhyw drefniadau olynol.
10. Er bod Trysorlys
y DU wedi darparu gwarant i danysgrifennu’r buddsoddiadau a
ariannwyd gan yr UE y cytunwyd arnynt cyn i’r DU adael yr UE
ym mis Mawrth 2019, mae Aelodau’r PMC yn parhau’n
bryderus am effaith bosibl yr oedi cyn dod i gytundeb ar drefniadau
ariannu Polisi Rhanbarthol ar y gallu i gynnal ei gapasiti
gweithredol presennol. Heb eglurder a sicrwydd ynghylch y
trefniadau cyllido ar gyfer y dyfodol, mae perygl i’r
arbenigedd sylweddol, a ddatblygwyd dros gyfnodau rhaglenni olynol,
mewn llawer o’r sefydliadau sy’n gyfrifol am
gyflawni’r rhaglenni buddsoddi pwysig hyn, gael eu herydu
neu’u colli, a chael effaith negyddol ar yr unigolion, y
busnesau a’r cymunedau sydd ar hyn o bryd yn cael cymorth
ganddynt.
11. Er enghraifft, dylid ystyried y gwersi a ddysgwyd ac arfer gorau drwy’r rhaglenni presennol a’u defnyddio i ddylanwadu ar ffurf a chynllun rhaglenni’r dyfodol. O ganlyniad, bydd llawer o’r gwaith y mae’r PMC eisoes yn ei gyflawni yn cael effaith sylweddol ar unrhyw ddull gweithredu ar gyfer y dyfodol.
12. Rhoddir
diweddariad i’r PMC am y datblygiadau mewn perthynas ag
amrywiol astudiaethau ymchwil a gwerthuso WEFO bob chwe mis,
sy’n rhoi cyfle
i’r PMC gyfrannu at gynlluniau gwerthuso’r rhaglenni.
Bydd y gwerthusiadau a’r trafodaethau hyn yn cael effaith
sylweddol ar ffurf rhaglenni yn y dyfodol wrth i’r gwersi
gael eu dysgu ac wrth i effaith ac effeithlonrwydd y gwahanol
ymyriadau gael eu mesur.
13. Cyflwynir tri Adroddiad Blynyddol ar Themâu Trawsbynciol i’r PMC hefyd ac mae pob un ohonynt yn manylu ar y cynnydd a wneir ar integreiddio Cyfle Cyfartal a Phrif Ffrydio Rhywedd, Datblygu Cynaliadwy, Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol ym mhob rhaglen a phrosiect. Mae’r adroddiadau’n amlygu’r cynnydd a wneir ar ddangosyddion y Themâu Trawsbynciol ffurfiol a gytunwyd gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, ochr yn ochr â thystiolaeth am sut mae’r prosiectau’n cyflawni amcanion y Themâu a nodir yn y Rhaglen Weithredol. Ym mis Mehefin 2015, cytunodd y PMC ar gyfres o ddangosyddion Themâu Trawsbynciol ychwanegol ar Lefel Achos (Prosiect) fel dull o ddangos yr arfer da a gyflawnir drwy brosiectau a ariennir gan yr UE. Cyflwynir tystiolaeth o’r cynnydd parthed y dangosyddion hyn i’r PMC dair gwaith y flwyddyn.
14. Yn ogystal â hyn, mae’r PMC wedi rhoi cryn bwyslais ar sicrhau y bydd y buddsoddiadau ar gyfer 2014-2020 yn gynaliadwy, a gofynnwyd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod effeithiau ehangach a hirdymor y buddsoddiadau’n cael eu mesur ac yr adroddir arnynt.
Y Camau Nesaf
15. Er bod cryn ansicrwydd ynghylch yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido’r UE yng Nghymru o wybod nad yw Llywodraeth y DU wedi cadarnhau’r manylion eto, bydd y PMC yn dal i ystyried ei rôl o ran cyfrannu at y drafodaeth am ddyfodol Polisi Rhanbarthol o fewn cylch gwaith ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau mewn perthynas â rhaglenni 2014-2020.
16. Mae egwyddorion sicrhau cynaliadwyedd buddsoddiadau a dysgu gwersi o weithredu rhaglen wrth galon gwaith y PMC, ac maent yn bynciau trafod cyson ar draws holl gwmpas ein rhaglen waith hyd yma. Byddant yn parhau i fod yn allweddol er mwyn cyflawni rhaglenni 2014-2020 yn llwyddiannus, ac rydym hefyd yn gobeithio y byddant yn helpu i greu sail ar gyfer unrhyw ddull gweithredu yn y dyfodol.
Julie Morgan, AC
Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-2020
Mai 2018
Atodiad A
AELODAETH PWYLLGOR MONITRO RHAGLENNI CYMRU 2014–2020
Cadeirydd:
Julie Morgan, Aelod Cynulliad
Enwebwyd 22 aelod, ar sail gynrychiadol o gyrff partneriaid a statudol:
Y Cynghorydd Rob Stewart |
Llywodraeth Leol |
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn |
|
Peter Crews |
Busnes a Menter |
Julie Cook |
|
Tom Whyatt |
|
Paul Byard |
|
Rudi Plaut |
|
Derek Walker |
Y trydydd sector |
Phil Fiander |
|
Iestyn Davies |
Addysg |
Dr David Blaney |
|
Professor David Shepherd |
|
Arfon Williams |
Amgylchedd |
Rhian Jardine |
|
Charlotte Priddy/Rachel Lewis-Davies |
Ffermio a Busnesau Gwledig |
Duncan Hamer |
Llywodraeth Cymru |
Rachel Garside-Jones |
|
Lowri Owain |
Grwpiau Gweithredu LEADER |
Y 6 aelod a ddewisiwyd drwy’r broses penodiadau Cyhoeddus:
· David Davies
· Yr Athro Richard Davies
· Dr Grahame Guilford
· Joy Kent
· Sian Price
· Beth Winkley